Y Pwyllgor Deisebau

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mawrth, 27 Mawrth 2012

 

 

 

Amser:

09:05 - 11:00

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_200000_27_03_2012&t=0&l=cy

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

William Powell (Cadeirydd)

Russell George

Bethan Jenkins

Joyce Watson

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Rob Hepworth, Yr Ymgyrch yn erbyn Llosgydd Casenewydd a Sir Fynwy

Haydn Cullen Jones, Yr Ymgyrch yn erbyn Llosgydd Casenewydd a Sir Fynwy

Tim Maddison, Y Rhwydaith yn erbyn Llosgyddion yn Ne Cymru

Dr Tim Peppin, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Rob Quick, Prosiect Gwyrdd

Mike Williams, Prosiect Gwyrdd

Matthew Farrow, Y Gymdeithas Gwasanaethau

Julie Barratt, Sefydliad Siartredig lechyd yr Amgylchedd

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Jasper Roberts, Llywodraeth Cymru

Dr Andy Rees, Llywodraeth Cymru

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Abigail Phillips (Clerc)

Sarita Marshall (Dirprwy Glerc)

Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

 

 

<AI1>

1.  Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

Diolchodd y Cadeirydd i Joyce Watson am gadeirio’r cyfarfod ar 13 Mawrth.

 

</AI1>

<AI2>

2.  Trafod y dystiolaeth a gafwyd ynghylch P-04-335 Sefydlu Tîm Criced Cenedlaethol i Gymru

Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywodd yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mawrth.

 

Cam i’w gymryd

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb i’r ohebiaeth a anfonwyd at Cricket Scotland a Cricket Ireland.

 

</AI2>

<AI3>

3.  Deisebau newydd

 

</AI3>

<AI4>

3.1  P-04-371 Tocynnau teithio rhatach ar drafnidiaeth gyhoeddus i bob plentyn hyd at 18 oed

 

</AI4>

<AI5>

3.2  P-04-382 Costau teithio i fyfyrwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus

 

Cafodd deisebau P-04-371 a P-04-382 eu grwpio ar gyfer eu trafod, a bu’r Pwyllgor yn eu trafod am y tro cyntaf.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor:

I wirio a yw’r Gweinidog ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi ysgrifennu at y Pwyllgor ynghylch deisebau tebyg;

I dynnu sylw’r Gweinidog at y deisebau pellach hyn;

I edrych ar ddyddiadau ymweliad y Pwyllgor â’r gogledd i weld a fyddai’n bosibl clywed tystiolaeth gan fyfyrwyr fel rhan o’r ymweliad hwnnw.

 

</AI5>

<AI6>

3.3  P-04-378 Ymestyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf.

 

Cam i’w gymryd

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y Gweinidog.

 

</AI6>

<AI7>

3.4  P-04-379 Diwrnod Coffáu Hil-laddiad yr Armeniaid

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf.

Datganodd y Cadeirydd fuddiant yn y mater gan ei fod wedi llofnodi Datganiad Barn Ysgrifenedig am y pwnc.

 

Cam i’w gymryd

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y Prif Weinidog i ohebiaeth y Pwyllgor am y mater.

 

</AI7>

<AI8>

3.5  P-04-380 Dewch yn ôl â'n bws! Deiseb yn erbyn diddymu'r gwasanaethau bws o ddwyrain Llanbedr Pont Steffan, Cwm-ann a Phencarreg

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor:

I aros am ymateb y Gweinidog i ohebiaeth y Pwyllgor am y mater;

Ysgrifennu at Trafnidiaeth Canolbarth Cymru (TraCC) am y mater.

 

</AI8>

<AI9>

3.6  P-04-381 Adfer Ysbyty Gogledd Cymru

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf.

 

Cam i’w gymryd

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y Gweinidog i ohebiaeth y Cadeirydd am y mater.

 

</AI9>

<AI10>

3.7  P-04-383 Yn erbyn dynodiad Parth Perygl Nitradau ar gyfer Llyn Llangors

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf.

 

Cam i’w gymryd

Cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y Gweinidog i ohebiaeth y Cadeirydd am y mater.

 

</AI10>

<AI11>

4.  Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

 

</AI11>

<AI12>

4.1  P-04-354 Datganiad cyhoeddus yn cefnogi Bradley Manning

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth yn ymwneud â’r mater hwn.

 

Cam i’w gymryd

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ffydd a chytunodd i aros am ymateb gan y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol.

 

</AI12>

<AI13>

4.2  P-04-322 Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth a’r Deisebydd.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor:

I ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo gynnwys eglwysi annibynnol yn nhrafodaethau’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen;

I ofyn i’r Gweinidog pryd fydd cyfarfodydd cyhoeddus am y Bil Treftadaeth yn cael eu cynnal a hysbysu’r deisebydd;

Ysgrifennu at Cadw am y mater.

 

</AI13>

<AI14>

4.3  P-04-356 Galwad i’r materion a osodwyd yn yr adroddiad ar bêl-droed yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2007 gael eu hadolygu

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

 

Cam i’w gymryd

Cytunodd y Pwyllgor i gynghori’r deisebydd i gyflwyno ei sylwadau i ymgynghoriad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar bêl-droed yng Nghymru, ac i gau’r ddeiseb.

 

</AI14>

<AI15>

4.4  P-03-124 Cysgliad

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau.

 

Cam i’w gymryd

Cytunodd y Pwyllgor i anfon copi o drawsgrifiad cyfarfod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol a gynhaliwyd ar 21 Mawrth at y deisebydd a chau’r ddeiseb. 

 

</AI15>

<AI16>

4.5  P-04-348 Targedau ailgylchu ar gyfer byrddau iechyd

4.6   

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan a’r deisebydd.

 

Cam i’w gymryd

Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd gan nad yw’r targed a gyhoeddwyd gan y Gweinidog yn un statudol, a chytunodd i gau’r ddeiseb. 

 

</AI16>

<AI17>

4.7  P-04-359 Problemau gyda’r GIG ar gyfer y byddar

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac un ymateb i’r ymgynghoriad.

 

Cam i’w gymryd

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn iddo gadw golwg ar y mater, a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

 

</AI17>

<AI18>

4.8  P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

Datganodd Joyce Watson fuddiant yn y ddeiseb gan ei bod wedi ymgymryd â gwaith ar y mater yn flaenorol.

 

Cam i’w gymryd
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion, fel yr awgrymwyd gan y Dirprwy Weinidog.

 

</AI18>

<AI19>

4.9  P-04-353 Ymgyrch yn erbyn troseddau casineb yng Nghymru

 

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb, sef y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ.

 

Cam i’w gymryd
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb o ystyried gwaith y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y mater hwn, a’i ymrwymiad i gadw golwg ar y mater.

 

</AI19>

<AI20>

5.  P-04-341 Llosgi gwastraff - sesiwn tystiolaeth lafar

Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.

 

</AI20>

<AI21>

6.  P-04-341 Llosgi gwastraff - sesiwn tystiolaeth lafar

Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.

 

Camau i’w cymryd

Cytunodd y Pwyllgor:

I ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am y datganiad gan Grŵp Gweithredu Unedig y Cymoedd (UVAG) bod Llywodraeth Cymru wedi atal cais y cyngor i gaffael triniaeth fiolegol fecanyddol a bod pwysau ariannol arno i ymuno a’r Prosiect Gwyrdd;

Anfon datganiad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sef bod elfen o losgi ynghlwm â phob dull o ymdrin â gwastraff, ymlaen at y deisebwyr i gael eu barn arno.

 

Cytunodd cynrychiolwyr y Prosiect Gwyrdd i anfon manylion ynghylch faint o dunelli o ludw peryglus sy’n gorfod cael ei drosglwyddo o ganlyniad i losgi ac a oes unrhyw losgyddion sy’n cael eu cau yn yr Unol Daleithau yr un math â’r rhai sy’n cael eu hadeiladu yng Nghymru.

 

</AI21>

<AI22>

7.  P-04-341 Llosgi gwastraff - sesiwn tystiolaeth lafar

Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.

 

Cam i’w gymryd
Cytunodd y Pwyllgor i gomisiynu ymchwil i weld a fyddai cyrraedd targedau ailgylchu’n golygu llosgi llai o wastraff, a all arwain at gosbau ariannol os nad oes gan losgyddion ddigon o wastraff i’w losgi.

 

</AI22>

<AI23>

8.  P-04-341 Llosgi gwastraff - sesiwn tystiolaeth lafar

Bu’r Gweinidog a’i swyddogion yn ateb cwestiynau gan y Pwyllgor.

 

Cam i’w gymryd
Yn dilyn ei rôl flaenorol fel arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lindsay Whittle AC i ofyn iddo am brofiad Caerffili o ran y Prosiect Gwyrdd.

 

</AI23>

<AI24>

9.  Papurau i'w nodi

 

</AI24>

<AI25>

9.1  P-03-136 Parcio yn y Mynydd Bychan a Birchgrove

 

</AI25>

<AI26>

9.2  P-03-292 Darparu Toiledau Cyhoeddus

 

</AI26>

<AI27>

9.3  P-04-358 Ailgyflwyno cymorth cartref ar gyfer plant sydd ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig a'u teuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

 

</AI27>

<AI28>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.

</AI28>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>